PET(4)-01-12 p10b
Byddai hyn yn ystyriaeth o safbwyntiau 95 y cant o’r 395 unigolyn yr ymgynghorwyd â hwy yn Nhrebefered.
Prif ddeisebwr: Trigolion Trebefered
Ystyriwyd gan y pwyllgor am y tro cyntaf: Hydref 2009
Nifer y deisebwyr:Cynigiwyd y ddeiseb hon gan drigolion Trebefered, a chasglwyd 3 llofnod. Yn ogystal, casglodd y deisebwr 377 o lofnodion ar ddeiseb gysylltiedig.
Gwybodaeth
ategol:
Er nad oes gennym wrthwynebiad mewn egwyddor i adfywio
safle’r maes awyr, rydym o’r farn y dylai fod o fewn
ffiniau presennol y maes awyr. Yn ogystal, rydym o’r farn y
dylai’r datblygiad ddefnyddio’r ffyrdd mynediad
presennol, fel y gwnaed er 1938. Ni ddylid adeiladu ffordd newydd
ar draul y trigolion lleol, yn enwedig y rhai sy’n byw yn
Nhrebefered a’r ardaloedd cyfagos. Byddai’n rhaid
iddynt oddef effeithiau andwyol rhagor o draffig a cholli
amwynderau. Byddai’r rhain yn cynnwys cynnydd annerbyniol
mewn llygredd traffig a golau, yn ogystal â cholli safleoedd
maes glas, sy’n annerbyniol. Ni ddylai trethdalwyr Cymru gael
eu cosbi o ganlyniad i faich y fath gost ddiangen.
Rydym o’r farn bod datblygiadau y tu allan i ffiniau presennol y maes awyr yn erbyn egwyddorion Cynllun Datblygu Cynaliadwy Cynulliad Cymru a pholisïau Cynllun Datblygu Unedol Bro Morgannwg. Rydym ni’n tybio, unwaith y bydd y ffordd a’r llety i deuluoedd y rhai sy’n gwasanaethu’r fyddin wedi eu hadeiladu, bydd yn gosod cynsail i ddatblygiadau yn y dyfodol, gan y bydd mynediad at y diben hwnnw.
Dyma ddyfyniadau o adroddiad gan Adran Cynllunio a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg:
‘Road Traffic: As there are planned new roads and junction improvements associated with the development and the development is likely to lead to an increase in road traffic on the existing roads in the local area, emissions from road traffic in the area could also increase’.
‘predicted to experience a noticeable change in traffic flows and increases in ambient noise from traffic on new development roads affecting the amenity of existing and future site occupiers in close proximity’.
‘The existing dwellings that would lie closest to the NAR and remaining SFA sites are those at Millands Caravan Park, Millands Farm, Old Froglands, Froglands Farm, Splott House, Rose Cottage and Oaklands.’
Felly, mae cydnabyddiaeth glir y bydd cynnydd sylweddol yn y traffig a’r llygredd amgylcheddol a fydd o ganlyniad i hynny.
Mae’r trigolion sy’n byw i’r gogledd/gogledd-orllewin o Drebefered, ger y B4265, Monmouth Way, Denbigh Drive, Cardigan Crescent a Harding Close yn benodol, lai na 60 metr o gyffordd y mynediad arfaethedig, a 30 metr o’r B4265. Bydd yr holl draffig lleol ychwanegol yn teithio ar y ffordd hon. Maen nhw’n agosach at y gyffordd arfaethedig nag unrhyw un o’r safleoedd y cyfeirir atynt. Y nhw fydd yn cael eu heffeithio fwyaf ymysg y rhai sy’n byw ger y datblygiad.
Rhaid cofio bod rhywfaint o lygredd yn yr ardaloedd hyn eisoes a, phe bai’r datblygiad yn digwydd, bydd rhaid iddynt oddef cynnydd annerbyniol yn yr holl lygredd a fydd o ganlyniad. Ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o hyn, a dylid nodi yn benodol na osodwyd unrhyw amodau ar y caniatâd cynllunio i amddiffyn y trigolion rhag effeithiau parhaol y datblygiad.
Mae bwriad i adeiladu’r llety i deuluoedd y rhai sy’n gwasanaethu yn y fyddin a’r ffordd fynediad ogleddol ar dir a ddynodwyd eisoes yn y cynllun yn ‘dir hamdden’. Mae’r safle ar dir maes glas ac mae’n elwa o gael ei warchod gan bolisïau’r Cynulliad a Bro Morgannwg. Bydd datblygiad o unrhyw fath yma, yn ffordd neu’n dai, yn amddifadu rhan helaeth y gymuned o nifer sylweddol o amwynderau, a bydd yn groes i’r polisïau hyn.
Mae pryder hefyd y bydd datblygu pellach yn dilyn oherwydd bod caniatâd cynllunio wedi ei roi a bod cynsail wedi ei osod. Bydd hyn yn niweidio’r ardal ymhellach.
Mae pob un ond naw o’r rhai a lofnododd ddeiseb a gyflwynwyd i bwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg, sy’n gwrthwynebu elfennau o’r cais cynllunio, yn byw yn yr ardal sydd fwyaf tebygol o gael ei heffeithio. Cytunodd 95 y cant o’r rhai a ofynnwyd iddynt ystyried llofnodi’r ddeiseb i wneud hynny. Dim ond 18 o’r 395 o drigolion y cysylltwyd â nhw wnaeth wrthod llofnodi’r ddeiseb.